Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (264) |
Datganiad y Llywydd
Croesawodd y Llywydd aelodau o’r Cydbwyllgor Trosolwg o Wasanaethau Cyhoeddus a Deisebau o Senedd Gweriniaeth Iwerddon, a oedd yn yr Oriel Gyhoeddus.
Teyrnged i Antoinette Sandbach a Byron Davives
Cyhoeddodd y Llywydd ymddiswyddiad Antoinette Sandbach a Byron Davies fel Aelodau’r Cynulliad, a dymunodd yn dda iddynt yn y dyfodol.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.31
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.14
3 Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: Nodi'r Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop – gweithio gyda a chefnogi ein cymuned Lluoedd Arfog heddiw
Dechreuodd yr eitem am 14.29
4 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Llysgenhadon Cyllid yr UE - Gohirwyd tan 19 Mai
5 Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol: Cyflwyno Bil yr Amgylchedd (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 15.03
6 Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2015
Dechreuodd yr eitem am 15.43
NDM5754 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mawrth 2015.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Dadl Cynllun Cyflawni ar gyfer Clefyd yr Afu
Dechreuodd yr eitem am 15.44
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5753 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Clefyd yr Afu, fframwaith tan 2020 ar gyfer GIG Cymru i wella gwasanaethau clefyd yr afu.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith y gallai'r broses o gyflwyno cynllun cyflenwi clefyd yr iau gael ei llesteirio gan yr heriau ariannol y mae byrddau iechyd lleol yn eu hwynebu o ganlyniad i'r toriadau cyllidebol mwyaf erioed gan Lywodraeth Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
9 |
29 |
47 |
Gwrthodwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi prisiau uned sylfaenol ar gyfer alcohol ar waith cyn gynted ag y bo modd.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
44 |
2 |
1 |
47 |
Derbyniwyd Gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5753 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r
Cynllun Cyflawni ar gyfer Clefyd yr Afu, fframwaith tan 2020 ar
gyfer GIG Cymru i wella gwasanaethau clefyd yr afu.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi prisiau uned sylfaenol ar gyfer
alcohol ar waith cyn gynted ag y bo modd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio
8 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 16.24
Daeth y cyfarfod i ben am 16.25
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 13 Mai 2015